Canlyniadau Chwilio - Dvořák, Antonín, 1841-1904
Antonín Dvořák
Cyfansoddwr o Fohemia (rhan o Ymerodraeth Awstria bryd hynny; rhan o Tsiecia bellach) oedd Antonín Leopold Dvořák' () (8 Medi 1841 – 1 Mai 1904). Gwnaeth ddefnydd helaeth o gerddoriaeth werin Morafia a'i ardal enedigol Bohemia, yn enwedig eu rhythmau cyfoethog. Ei waith enwocaf, mae'n debyg, yw ei Nawfed Symffoni ('Symffoni'r Byd Newydd' a adnabydir hefyd fel 'O'r Byd Newydd').Cychwynodd ganu'r ffidil yn chwech oed ac yn 1872 perfformiwyd ei waith yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Mhrag. Deisyfodd gydnabyddiaeth a chynulleidfa ehangach, felly cystadleuodd mewn cystadleuaeth yn Berlin, ond nid enillodd (gyda'i symffoni cyntaf) a chollwyd y llawysgrif am rai blynyddoedd. Yn 1874 enillodd gystadleuaeth gyfansoddi Awstraidd ac eto yn 1876 ac 1877, gyda Brahms yn un o'r beirniaid. Rhoddodd Brahms eirda drosto i'w gyhoeddwr, Simrock, a aeth ati'n ddiymdroi i gomisiynnu'r 'Dawnsfeydd Slavonig Dances, Op. 46.
Yn ystod ei oes sgwennodd gyfanswm o ddeg opera, pob un gyda libreto yn yr iaith Tsiec, gydag ysbryd genedlaetholgar Tsiecaidd yn llifo drwyddynt. Ei opera mwyaf poblogaidd yw ''Rusalka''.
Disgrifiwyd Dvořák fel "o bosib ... cyfansoddwr mwyaf ei oes". Darparwyd gan Wikipedia